Cysylltiadau Allweddol
Mae’r uned gaffael / tîm pwrcasu ar y cyd wedi’i leoli ym Mhrifysgol Abertawe, lle mae’r tîm yn cyflawni ei gyfrifoldebau i’r Brifysgol, ond mae hefyd yn gweithio ar ran Coleg y Drindod Caerfyrddin a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe. Mae’r tîm Pwrcasu yn cynnwys yr aelodau canlynol ar hyn o bryd :
Enw |
Teitl swydd |
E-bost |
Ffôn |
|---|---|---|---|
| Rhidian Morgan | Pennaeth Caffael | j.r.morgan@swansea.ac.uk | 01792 (51) 3073 |
| Julian Caruana | Uwch Swyddog Pwrcasu | j.r.caruana@swansea.ac.uk | 01792 (29) 5873 |
| Sarah Williams | Swyddog Pwrcasu | s.l.williams@swansea.ac.uk | 01792 (29) 5836 |
| Julie Powell | Cynorthwy-ydd Pwrcasu | j.powell@swansea.ac.uk | 01792 (29) 5890 |
| Laura Allen | Cynorthwy-ydd Pwrcasu | l.miles@swansea.ac.uk | 01792 (60) 2779 |
| Tom Cadwallader | Hyfforddai Pwrcasu | t.j.cadwallader@swansea.ac.uk | 01792 (60) 2792 |
| Sheila Pictor/Barbara West | Cynorthwywyr Clerigol | b&s-purchasing@swansea.ac.uk | 01792 (29) 5433 |
Rhidian Morgan, MCIPS – Pennaeth Caffael
Rhidian yw Pennaeth yr Adran Gaffael, sy’n cynnwys staff Pwrcasu a Thaliadau, ac mae wedi gweithio yn y Swyddfa Bwrcasu ers ei chychwyn. Mae ganddo nifer o flynyddoedd o brofiad o waith caffael yn y sector cyhoeddus a phreifat ac mae’n aelod cymwysedig o’r Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi. Prif feysydd cyfrifoldeb Rhidian yw:
- Polisïau a Gweithdrefnau
- Cyfleustodau
Julian Caruana MCIPS
Julian yw’r Uwch Swyddog Pwrcasu. Mae ganddo nifer o flynyddoedd o brofiad o waith pwrcasu o fewn y GIG ac mae’n aelod cymwysedig o’r Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi. Prif feysydd cyfrifoldeb Julian yw:
- Prosiectau Cyfalaf
- Offer Ymchwil
- TG a Chyfathrebu
- Teithio Busnes
- Gwasanaethau Post a Chludwyr
- Negodi gyda Chyflenwyr
- Cyngor a chyfarwyddyd ar Reoliadau Pwrcasu, caffael yr UE ac Ariannol.
Sarah Williams MCIPS
Sarah yw’r Swyddog Pwrcasu, ac mae ganddi nifer o flynyddoedd o brofiad mewn busnes ac mewn Awdurdod Lleol. Mae Sarah yn aelod cymwysedig o’r Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi, ac mae ei phrif feysydd cyfrifoldeb fel a ganlyn:
- Ystadau
- Arlwyo
- Gwasanaethau Ymgynghori a Phroffesiynol
- Llun-gopiwyr
- Cynaliadwyedd
- Negodi gyda Chyflenwyr
- Cyngor a chyfarwyddyd ar Reoliadau Pwrcasu, caffael yr UE ac Ariannol.
Julie Powell
Mae Julie wedi gweithio ym maes pwrcasu am nifer o flynyddoedd ac mae’n gweithio i SWWHEPP ar sail ran amser. Mae ei rôl felly wedi’i rhannu’n gyfartal rhwng Pwrcasu a Thaliadau ac mae ei phrif feysydd cyfrifoldeb fel a ganlyn:
- Desg gymorth a hyfforddiant 'POP'
- Desg gymorth a hyfforddiant Cerdyn Prynu Natwest
- Cyfriflenni
- Ymholiadau Cyffredinol
Laura Miles
Mae Laura wedi gweithio ym maes pwrcasu am nifer o flynyddoedd ac mae ei phrif feysydd cyfrifoldeb fel a ganlyn :
- Llun-gopiwyr
- Deunydd Ysgrifennu Corfforaethol ac Argraffu
- Cynilion
- Ad-daliadau ac ymholiadau cyffredinol
Mae Laura yn absennol o’r gwaith ar Gyfnod Mamolaeth ar hyn o bryd, a gellir cyfeirio unrhyw ymholiadau at sylw Tom Cadwallader.
Tom Cadwallader
Ei brif feysydd cyfrifoldeb yw:
- Deunydd Swyddfa, Papur Llun-gopiwyr a Chyflenwadau Swyddfa
- Gwaith cynnal a chadw ar gyfrifiaduron personol ac argraffyddion
- Cerbydau Hurio ar Gontract
- Nwyddau Traul i Gyfrifiaduron
- Celfi Swyddfa
- Ymholiadau Cyffredinol
Sheila Pictor / Barbara West
Mae Sheila a Barbara yn gweithio fel rhan o’r tîm Pwrcasu, ond i Brifysgol Abertawe yn unig. Eu prif feysydd cyfrifoldeb yw:
- Mewnbynnu cyflenwyr / credydwyr newydd
- Ychwanegu / newid manylion banc
- Ymholiadau Cyffredinol