SOUTH WEST WALES
HIGHER EDUCATION PARTNERSHIP
Working together to enhance services

PARTNERIAETH ADDYSG UWCH
DE ORLLEWIN CYMRU
Yn gweithio gyda’n gilydd i helaethu a gwella gwasanaethau

Header image

Cerrig Milltir Prosiect SWWHEP

Yn dilyn ei greu yn 2007 o ganlyniad i nifer o Awgrymiadau a Gwiriadau Ffitrwydd Caffael gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, mae’r Uned Gaffael wedi cyflawni’r canlynol hyd yn hyn:

  • Polisïau a Gweithdrefnau Cyffredin
    Amlinellu ymarfer cymeradwy ar gyfer amryw weithgareddau Prynu a Chaffael yn cynnwys Polisi Caffael Cynaliadwy ar y cyd 
  • Telerau ac Amodau o Gontractau Cyffredin 
  • Tendrau a Chontractau ar y cyd
  • Cardiau Prynu
    Ar gyfer pryniadau gwerth bach ar raddfa fawr 
  • Cynilo
    Cynilo costau yn ogystal â buddiannau gwerth ychwanegol
  • Fframwaith Asesu Caffael Cynaliadwy
    Mae’r ymarferiad hunan asesu hwn yn feincnod o lwyddiannau Cynaladwyedd ac Amgylcheddol sefydliadau yn erbyn cyrff Addysg Uwch a chyrff sectorau cyhoeddus eraill. Mae’r sefydliadau wedi cwblhau eu cynlluniau gweithredu unigol eu hunain ar gyfer amcanion y dyfodol. 
  • Hyfforddiant
    Mae hyn wedi cynnwys hyfforddiant gweithredol yn ogystal â chyrsiau proffesiynol. 
    Mae’r tri sefydliad yn teimlo eu bod wedi ennill gwell effeithlonrwydd drwy weithio ar y cyd a bod y cyflawniadau yn gofnod o lwyddiant y trefniad. Yn hyn o beth, mae Prifysgol Coleg y Drindod, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe yn anelu at barhau â symud y bartneriaeth yn ei blaen.