Gwybodaeth Dechnegol
Bydd Prifysgol Abertawe yn cynnal cofnodion Myfyrwyr, cyfleusterau mewnrwyd, E-ddysgu a gwybodaeth yrfaoedd ar gyfer pob un o’r tri sefydliad. Fel rhan o’r cynlluniau AT a PB, bydd y gwasanaethau hyn wedi’u cydleoli mewn dwy ystafell gyfrifiaduron ar wahân mewn adeiladau ar wahân ar y campws ym Mhrifysgol Abertawe. Mae gan y ddau gyfleuster hyn eneradur, batri wrth gefn a chyflenwadau aerdymheru deuol rhag ofn y bydd methiant. Lle bo’n bosibl defnyddir caledwedd ddrychweddu neu galedwedd ysbeidiol boeth.
Bydd dau seilwaith SAN 8100 HP, wedi’u lleoli mewn ystafelloedd cyfrifiaduron gwahanol, yn cael eu cysylltu gyda’i gilydd ym Mhrifysgol Abertawe i ddarparu seilwaith data gwydn. Bydd gwasanaethau hanfodol i’r perwyl yn drychweddu data ar draws y SAN gan alluogi gwasanaethau i barhau pe bai un ystafell beiriant yn mynd yn anweithredol.
Bydd y technolegau a ddefnyddir wedi’u seilio ar set offer VMware ac egwyddorion gwasanaethau wrth gefn ac adfer cysylltiedig. Bydd y rhain yn cael eu profi ar gyfer y platfformau a’r systemau cronfeydd data amrywiol a ddefnyddir.
Bydd system reoli newydd yn cael ei datblygu i oruchwylio’r prif seilwaith SAN yn PA a galluogi i ddiffygion gael eu hadnabod a’u diagnosio yn gynnar cyn i broblemau godi.
Cysylltiadau technegol allweddol
Paul Manning - Prifysgol Abertawe
Lyndon Shirley - Prifysgol Fetropolitan Abertawe
Karl Williams - Prifysgol Cymru Y drindod Dewi Sant
Rheolwr
Tony Ollier - Prifysgol Abertawe