Cerrig Milltir Y Prosiect Adfer Trychinebau
- Derbyniwyd caniatâd i symud offer serfiwr a storio allweddol i’r un ardal ag Uwch-gyfrifiadur Prifysgol Abertawe (“Blue C”) sy’n darparu awyrgylch o safon llawer uwch o safbwynt oeri. Mae gwaith wrthi’n cael ei wneud i ail-leoli offer yn addas rhwng yr ystafell hon a’r ystafell beiriannau bresennol sy’n cael eu rhedeg gan y Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth (LlS) a’r Uned Cyfrifiadura Gweinyddol (ACU).
- Mae LIS ac ACU wedi cysylltu’n llwyddiannus eu dau SAN i ffurfio un datrysiad cyfannol sy’n caniatáu dyblu a chefn-gadw ffeiliau rhwng y sawl arae storio.
- Mae LIS nawr yn cynnal Blackboard ar gyfer prosiect e-ddysgu SWWHEP, PebblePad ar gyfer prosiect gyrfaoedd SWWHEP a SFX ar gyfer prosiect Gwasanaethau Llyfrgell SWWHEP ar gyfer tri phartner SWWHEP. Yn sgil hyn mae LIS hefyd yn cynnal system Blackboard arall ar gyfer prosiect CWMHE. Mae ACU hefyd yn cynnal nifer o systemau ar gyfer nifer o brosiectau SWWHEP ar hyn o bryd.
- Mae LIS ac ACU bellach yn gweithio ar integreiddio eu dau osodiad VMware i mewn i un datrysiad er mwyn gwella hyblygrwydd ymhellach.
- Hyd yn hyn mae tua thri chwarter neu fwy o ystâd serfiwr LIS ac ACU wedi’i rhithio.
- Rydym yn archwilio opsiynau i ddyblygu data wrth gefn gan ddefnyddio araeau disg cyffelyb rhwng Prifysgol Abertawe ac ystafell beiriannau ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe
- O ganlyniad i’r cynnydd yn lefel y cydweithio rhwng adrannau LIS ac ACU, mae prosiect lleol pellach wedi’i ddechrau yn defnyddio ymgynghorwyr allanol o Salford Software (www.salfordsoftware.co.uk), i integreiddio systemau parthau Cyfeiriaduron Gweithredol, systemau Cyfnewid a gosodiad y Bwrdd Gwaith LIS ac ACU.
- Hefyd, o ganlyniad i welliant mewn isadeiledd, mae’r Ysgol Gwyddor Iechyd yn gweithio’n agos â thimoedd LIS/ACU i rithio amgylchedd CG/Cyfnewid eu hun â llygad ar y posibilrwydd o gyfuno eu hamgylchedd â chyd-systemau LIS/ACU sydd wrthi’n cael eu datblygu ar hyn o bryd.
- Bu LIS, ACU a SHS, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Fetropolitan Abertawe yn arbrofi cynhyrchion cefn-gadw eraill gan gynnwys Microsoft Data Protector a chynnyrch Cefn-gadw a Dyblygu Veeam er mwyn darparu gwell systemau cefn-gadw gwell sydd ar gael o’u cynhyrchion presennol.
- Mae ystafell beiriannau newydd wedi’i darparu ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe yn safle Townhill
- Mae HP EVA4400 ac ychydig o serfwyr blade HP wedi’u gosod yn yr ystafell beiriannau newydd sy’n darparu’r llwyfan ar gyfer gosodiad VMware SMU.
- Mae SMU nawr yn defnyddio’u haraeau storio hyn HP MSA1000 yn eu safle arall i ddarparu cyfleuster DR yn ogystal â system storio wrth gefn â disg oddi ar y safle.