SOUTH WEST WALES
HIGHER EDUCATION PARTNERSHIP
Working together to enhance services

PARTNERIAETH ADDYSG UWCH
DE ORLLEWIN CYMRU
Yn gweithio gyda’n gilydd i helaethu a gwella gwasanaethau

Header image

Adfer ar ôl Trychineb SWWHEP

NicoBydd y tri sefydliad yn dadansoddi ac yn gwella eu cynlluniau Parhad Busnes (PB) ac Adfer ar ôl Trychineb (AT) ac yn rhannu systemau caledwedd cyfrifiadurol cyffredin i alluogi cydweithrediad. Bydd y cais yn cefnogi gofynion PB ac AT y ceisiadau ad-drefnu eraill, yn enwedig Blackboard, Gyrfaoedd, Cofnodion Myfyrwyr, Cynfyfyrwyr a’r Fewnrwyd.

Fel rhan o’r cynnig, bydd y tri sefydliad yn datblygu cynlluniau Adfer ar ôl Trychineb a Pharhad Busnes cydweithrediadol a byddant yn cysylltu â’i gilydd ac yn cynorthwyo’i gilydd yn ôl y galw. Bydd y sefydliadau yn ymchwilio i opsiynau ar gyfer cydgysylltu eu hystafelloedd cyfrifiaduron priodol naill ai drwy rwydwaith sector cyhoeddus Cymru neu gyda chysylltedd ffeibr uniongyrchol.

Bydd systemau a gwasanaethau yn cael eu datblygu a’u profi yn PA drwy gysylltu dwy ystafell gyfrifiaduron bresennol. Yn dilyn gweithrediad llwyddiannus yn PA bydd y system yn cael ei hehangu i alluogi PA a PFA i gydweithredu a chopïo data hanfodol rhwng safleoedd y naill a’r llall. Bydd hyn yn sicrhau, pe bai ystafell gyfrifiaduron neu gampws yn mynd allan o wasanaeth, y gellid ailadeiladu unrhyw wasanaethau hanfodol i’r perwyl o’r cyfryngau wrth gefn ar galedwedd sydd ar gael yn barod ac sydd wedi’i phrofi.

Bydd staff cymorth rhwydweithio, systemau a chymwysiadau ym mhob sefydliad yn cydweithio’n agos i ddatblygu polisi Parhad Busnes cydlynol.  Bydd hwn yn cynnwys adleoli staff yn y sefydliad partner i gefnogi gwasanaethau pe bai’r sefydliad cartref yn mynd yn anweithredol.

Bydd y cynnig yn galluogi’r holl staff technegol i gydweithredu a chysylltu fel tîm cymorth technegol rhithwir mwy sy’n croesi nifer o barthau rheoli confensiynol. Bydd yn galluogi’r timau i brofi a rhannu technolegau newydd a ffyrdd newydd o reoli dulliau storio data a gwasanaethau wrth gefn / adfer.