SOUTH WEST WALES
HIGHER EDUCATION PARTNERSHIP
Working together to enhance services

PARTNERIAETH ADDYSG UWCH
DE ORLLEWIN CYMRU
Yn gweithio gyda’n gilydd i helaethu a gwella gwasanaethau

Header image

Prifysgol Fetropolitan Abertawe

Prifysgol Fetropolitan Abertawe yw un o’r prifysgolion mwyaf newydd yn y Deyrnas Unedig ac fe dderbyniodd statws prifysgol yn Ionawr 2008. Yn hysbys gynt fel Athrofa Abertawe, mae wedi bod yn ganolfan bwysig ar gyfer cyflenwi addysg uwch alwedigaethol am dros 150 o flynyddoedd. Sefydlwyd ei hysgol gelf ym 1853 a’i hysgol addysg i athrawon ym 1872.

Mae’r Brifysgol yn cynnig ystod eang o raglenni gradd israddedig, graddau uwch drwy ymchwil, portffolio helaeth o gyrsiau ôl-radd a ddysgir a nifer o gymwysterau proffesiynol y gellir eu hastudio ar sail amser llawn neu ran amser.

Mae gan y Brifysgol gyfradd gyflogadwyedd nodedig hefyd. Yn ôl y ffigurau diweddaraf gan Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch, mae 94.3 y cant o fyfyrwyr y Brifysgol yn cael swyddi neu’n mynd i addysg bellach o fewn chwe mis i raddio.  Mae’r ffigur hwn yn sylweddol uwch na chyfartaledd y DU, sef 93.2 y cant!

Mae gan Brifysgol Fetropolitan Abertawe dair cyfadran:

- Cyfadran Dylunio Cymhwysol a Pheirianneg
- Cyfadran Celf a Dylunio
- Cyfadran y Dyniaethau

Institution image - Llun o’r sefydliad

Cyfeiriad post y Brifysgol yw:

Prifysgol Fetropolitan Abertawe
Mount Pleasant
Abertawe
SA1 6ED

Ffôn: 01792 481000
FFacs: 01792 481085
Ebost: enquiry@smu.ac.uk

Ewch i wefan swyddogol Prifysgol Fetropolitan Abertawe www.sihe.ac.uk