SOUTH WEST WALES
HIGHER EDUCATION PARTNERSHIP
Working together to enhance services

PARTNERIAETH ADDYSG UWCH
DE ORLLEWIN CYMRU
Yn gweithio gyda’n gilydd i helaethu a gwella gwasanaethau

Header image

Ynglyn â Phrifysgol Abertawe

Wedi’i sefydlu ym 1920, mae Abertawe yn brifysgol fywiog wedi’i harwain gan ymchwil sydd wedi’i lleoli ar ehangder mawreddog Bae Abertawe ar ymyl penrhyn Gwyr, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU.

Ers ei sefydlu, mae’r Brifysgol wedi bod yn sefydliad gwyddonol a thechnegol sydd wedi’i chysylltu’n agos â diwydiannau mawr De Cymru, yn ogystal â bod yn ganolfan adnabyddus i’r celfyddydau, gan wasanaethu cymuned y rhanbarth.

Mae rhagoriaeth gynnar mewn Daeareg, Ffiseg, Hanes, Ieithoedd Ewropeaidd, a Pheirianneg bellach wedi’i chyfannu gan arbenigedd mewn ystod eang o bynciau sy’n cynnwys y Celfyddydau, y Dyniaethau, y Gwyddorau Cymdeithasol, Iechyd a Meddygaeth, Busnes, y Gyfraith, Peirianneg, y Gwyddorau Ffisegol a’r Gwyddorau Amgylcheddol.

Bellach, mae gan y Brifysgol tua 15,000 o fyfyrwyr ac mae’n cynnig dros 500 o gyrsiau gradd a 130 o gyrsiau ôl-radd mewn ystod eang o feysydd pwnc, o Astudiaethau Americanaidd i Swoleg, heb sôn am raglen addysg barhaus helaeth. Mae nifer o gyrsiau a modiwlau ar gael i’w hastudio yn y Gymraeg.

Mae arolygon a thablau cynghrair diweddar wedi gosod Abertawe yn gyson ymhlith yr 20 Prifysgol orau yn y DU am ansawdd yr addysgu a bodlonrwydd myfyrwyr. Mae’r canlyniadau’n adlewyrchu nod y Brifysgol o ddarparu profiad arbennig i fyfyrwyr ochr yn ochr ag addysgu o’r ansawdd gorau sy’n cynhyrchu graddedigion sydd wedi’u cymhwyso ar gyfer cyflawniad personol a phroffesiynol eithriadol.

Mae’r Brifysgol yn cael ei chydnabod yn gynyddol fel pwerdy ar gyfer twf yn yr economi leol ac mae’n chwarae rôl bwysig wrth sefydlu Abertawe fel canolfan lwyddiannus ar gyfer cydweithrediad rhwng diwydiant, masnach, a’r byd academaidd. Mae’r Brifysgol eisoes yn gweithio gyda dros 200 o fusnesau – gan gynnwys rhai o brif gwmnïau rhyngwladol y byd, yn ogystal â nifer o gyrff lleol.

Yn ei dro, mae hyn wedi helpu i wella cyflogadwyedd graddedigion Abertawe, gyda 95% o’r graddedigion mewn cyflogaeth amser llawn neu addysg bellach o fewn chwe mis i raddio.

Institution image - Llun o’r sefydliad

Cyfeiriad post y Brifysgol yw:

Prifysgol Abertawe
Parc Singleton
Abertawe
SA2 8PP
Cymru

Ffôn: +44 (0) 1792 205678
FFacs: +44 (0) 1792 295157
Minicom: +44 (0)1792 513100


Ewch i wefan swyddogol Prifysgol Abertawewww.swan.ac.uk