Coleg Prifysgol Y Drindod
Wedi ei sefydlu yn 1848, Coleg Prifysgol Y Drindod yw’r unig Goleg Eglwysig o fewn Prifysgol Cymru. Rhaglenni gradd gyda phwyslais galwedigaethol sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, Saesneg neu’n ddwyieithog, rhwydwaith o wasanaethau cynnal, a’r cyfle i fod yn rhan o’r gymuned ehangach; yw rhai o’r ffactorau sy’n gwneud bywyd prifysgol yn brofiad sy’n cyfoethogi myfyrwyr a staff y Coleg.
Mae partneriaethau lu’r Coleg ynghyd â mentrau ar y cyd â sefydliadau eraill yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr a staff i ymwneud ag asiantaethau allanol er mwyn ehangu eu profiadau a’u sgiliau. Dyma werth ychwanegol coleg bychan sy’n weithgar yn datblygu cysylltiadau ac sydd wedi lleoli ei hun yng nghanol cynllunio addysgol, economaidd a chymdeithasol yr ardal.
Mae cydweithredu â Chyngor Sir Gaerfyrddin, er enghraifft, wedi arwain at ddatblygu’r Ganolfan Fentergarwch Diwylliannol a fydd yn cynnig canolfan ymarfer ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru yn ogystal ag unedau ar gyfer y diwydiannau creadigol a busnesau sydd wedi ennill eu plwyf.
Mae Canolfan Chwaraeon ac Iechyd newydd agor ar y campws i’w defnyddio gan y Coleg a’r gymuned ehangach. Bydd partneriaethau’r dyfodol yn gweld datblygiad canolfan gysylltiedig ag iechyd a fydd yn cysylltu â rhaglenni academaidd y coleg. Ar hyn o bryd mae’r Drindod yn gweithio mewn partneriaeth â Leonard Cheshire, y darparwr cymorth i’r anabl mwyaf yn sector gwirfoddol y DU, i ddatblygu’r Ganolfan ar gyfer Byw’n Annibynnol. Fe gysylltir y Ganolfan â’r rhaglenni hyfforddiant dwyieithog a gynigir gan Ysgol Astudiaethau Addysg a Chynhwysiant Cymdeithasol yn y Coleg.
Bydd cydweithredu â Phrifysgol Abertawe, Athrofa Abertawe a’r Awdurdodau Addysg Lleol wrth ddatblygu Ysgol Addysg De Orllewin Cymru yn cynnig rhwydweithiau cryfach ar gyfer darparu hyfforddiant ac addysg gychwynnol athrawon yn ogystal â mwy o gyfleodd ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus. Mae cymryd rhan mewn cynlluniau fel Go Wales yn cynnig cyfleoedd i ymwneud â’r gymuned fusnes, gan roi profiad gwaith i fyfyrwyr a graddedigion sydd yn aml yn arwain at waith llawn amser.
Mae’r Coleg yn gweithio gyda chymunedau ar draws gorllewin Cymru er mwyn darparu rhaglenni rhan amser a hyblyg. Y mae’n ymroddedig i ehangu mynediad i addysg uwch a thrwy nifer o raglenni y mae’n cynnig cyfleoedd i oedolion gymryd rhan mewn addysg ar draws yr ardal gan gynnwys cyrsiau blasu, tystysgrifau a graddau sylfaen yn y gweithle, yn ogystal â rhaglenni gradd a meistr.
Mae partneriaethau gyda sefydliadau yn UDA, Japan a Tsieina yn golygu bod y Drindod yn croesawu cymuned ryngwladol gynyddol i Gaerfyrddin ac yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr astudio yn UDA ac ardaloedd eraill yn Ewrop fel rhan o’u hastudiaethau gradd.
Y mae’r partneriaethau hyn yn cadarnhau rôl y Coleg fel Prifysgol Gymunedol Gorllewin Cymru sy’n gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at les cymunedau’r rhanbarth.
Cyfeiriad post y Brifysgol yw:
Coleg Prifysgol y Drindod, Carmarthen,
SA31 3EP, Wales, UK
Ffôn: 01267 676767
FFacs: 01267 676766
Ebost: registry@trinity-cm.ac.uk
Ewch i wefan swyddogol Coleg Prifysgol y Drindod 