Beth mae pobl yn ei ddweud
Isod ceir detholiad o’r pethau cadarnhaol y mae pobl yn eu dweud am fenter SWWHEP:
Wrth siarad yn y lansiad, meddai Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau:
"Mae’n galonogol gweld Prifysgol Abertawe, Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Choleg y Drindod, Caerfyrddin, yn cydweithredu i sefydlu’r Bartneriaeth gydwasanaethau hon.
"Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i adeiladu ar ragoriaeth mewn addysg uwch ac mae’r £7.5 miliwn yr ydym yn ei fuddsoddi yn natblygiad Partneriaeth Addysg Uwch De Orllewin Cymru yn amlygiad gwirioneddol o hyn."
Methai’r Athro Phillip Gummett, Prif Weithredwr CCAUC:
"Rwy’n croesawu’r prosiect cydweithrediadol blaenllaw hwn yn fawr. Mae’n cynnig model er mwyn i sefydliadau addysg uwch weithio gyda’i gilydd, gan rannu gwasanaethau, lleihau dyblygu ac integreiddio gweithgareddau, sydd ar flaen y gad yn ôl safonau’r DU, ac nid rhai Cymru’n unig."
Meddai’r Athro Richard B Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe:
"Rydym yn cydnabod bod hwn yn brosiect arwyddocaol a gwirioneddol drawsffurfiol. Mae wedi’i adeiladu ar ffydd a hyder, gyda staff ym mhob un o’r tri sefydliad yn cofleidio’r prosiect ac yn chwarae rôl sylweddol wrth ei yrru ymlaen.
"Byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd mewn modd cadarnhaol er mwyn cyflawni amcanion gwerthfawr i wella ansawdd ac effeithiolrwydd addysg uwch ar draws de orllewin Cymru."
Meddai’r Athro David Warner, Is-ganghellor Prifysgol Fetropolitan Abertawe:
"Mae’n rhan o’n natur yn Ne Orllewin Cymru i fod yn eithaf gwylaidd ynglyn â’n cyflawniadau. Eisoes, ni oedd y cyntaf yn y DU i gyfnewid staff, myfyrwyr a rhaglenni rhwng cyd-brifysgolion, ac rydym ar fin creu canolfan gydweithrediadol newydd ar gyfer addysg athrawon.
"Mae’r prosiect hwn hyd yn oed yn fwy arloesol na’r un o’r ddau arall, ac mae’n un cyntaf eto i’r DU. Efallai y dylem ddechrau gweiddi ychydig yn uwch am yr hyn yr ydym wedi’i wneud, ac yn ei wneud, yn Ne Orllewin Cymru."
Meddai Dr Medwin Hughes, Prifathro Coleg y Drindod, Caerfyrddin:
"Mae hyn yn wir yn ddatblygiad i’w groesawu’n fawr i ranbarth De Orllewin Cymru – bydd y bartneriaeth hon yn dod â buddion hirdymor sylweddol i fyfyrwyr a staff, ac i addysg uwch Cymru yn ei chyfanrwydd.
"Mae’r fenter hon nid yn unig yn mynd i’r afael â’r anghenion a nodwyd yn Ymgyrraedd yn Ehangach ar gyfer clystyru sefydliadol a Rhwydweithiau Rhagoriaeth ond, drwy gydweithrediad, mae hefyd yn bodloni meysydd blaenoriaeth eraill, gan gynnwys ehangu mynediad, rhagoriaeth mewn addysgu a dysgu a datblygu gweithlu medrus i’r 21ain ganrif a thu hwnt."



