Beth ydy SWWHEP?
Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) wedi dyfarnu £7.5 miliwn i Brifysgol Abertawe, Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Coleg Prifysgol y Drindod i roi newid ar waith mewn gwasanaethau gweinyddol allweddol – dan Brosiect Ad-drefnu a Chydweithredu Partneriaeth Addysg Uwch De Orllewin Cymru (SWWHEP). Dyma’r prosiect cyntaf o’i fath yn y sector addysg uwch yng Nghymru.
Cymeradwywyd cyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru dan ei hagenda "Ymgeisio yn Uwch" er mwyn cefnogi SAUau yng Nghymru yn eu hymdrechion i wella perfformiad, hybu cystadleurwydd, a gwella gwerth am arian mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Mae’r gefnogaeth ariannol i’r prosiect peilot hwn yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus LlCC i fwrw ymlaen ag ad-drefnu a chydweithredu fel ffordd bragmatig o sicrhau sector addysg uwch dynamig a chystadleuol yng Nghymru.
Mae’r cydweithrediad rhwng y tri sefydliad yn adeiladu ar waith a wnaed ar y cyd eisoes a bydd yn arwain at integreiddio ystod eang o wasanaethau cymorth a swyddogaethau gweinyddol, gan gynnwys: cofnodion myfyrwyr a systemau mewnrwyd; creu gwasanaeth llyfrgell a gyrfaoedd 'rhithwir' de orllewin Cymru; cydweithrediad o ran rheoli ystadau a chaffael; cydweithrediad o ran gwasanaethau cyn-fyfyrwyr a recriwtio myfyrwyr rhyngwladol; ac ymagwedd gydgysylltiedig at gynaliadwyedd amgylcheddol.
Mae’r tri SAU wedi datblygu partneriaeth strategol a fydd yn arwain at hyd yn oed mwy o brosiectau cydweithrediadol. Yr amcan yw integreiddio yn gynyddol ystod eang o systemau gweinyddol swyddogaethol, gan gynnwys systemau cymorth TG pwysig, cyn belled ag y bo’n ddichonadwy, o gofio bod gan PA, PFA a CPD genadaethau gwahaniaethol a chyrff llywodraethu annibynnol, ac y bydd y rhain yn parhau.
Mae’r model yn profi bod llawer i’w ennill wrth ddod â set amrywiol o sefydliadau addysg uwch at ei gilydd mewn rhanbarth penodol a gwneud iddynt ddefnyddio eu cryfderau eu hunain, ond er budd pawb.



