Rheoli’r Wefan
Isod, ceir canllawiau ar sut y bydd y wefan yn cael ei diweddaru a’i chynnal.
Dylid anfon pob diweddariad a newid i’r cynnwys drwy e-bost at Wefeistr SWWHEP Chris Rees. Mae’n rhaid i’r holl gynnwys newydd gael ei gyfieithu i’r Gymraeg cyn y gellir ei gyhoeddi ar y wefan fyw. Felly, argymhellir bod aelodau o staff SWWHEP sydd eisiau ychwanegu cynnwys yn rhoi wythnos o rybudd o leiaf er mwyn i’r cynnwys gael ei gyfieithu. Er enghraifft, os ydych yn dymuno hysbysebu digwyddiad a gynhelir ar ddyddiad penodol, yna dylid anfon y cynnwys ymhell o flaen llaw er mwyn i’r eitem newyddion gael ei dangos mewn pryd.
Mae’r cynnwys yn cael ei gyhoeddi ar wefan brawf ddiogel cyn iddo gael ei lanlwytho i’r wefan fyw. Mae’n rhaid i’r staff sicrhau bod yr holl wybodaeth a ddarperir yn gywir ac nad yw’n camgyfleu SWWHEP mewn unrhyw ffordd. Bydd y cynnwys yn cael ei gymeradwyo gan y gwefeistr, a chan reolwyr y prosiect os teimlir bod hynny’n angenrheidiol.
Ymwadiad
Gwybodaeth sy’n amlinellu’r hawlfraint a’r cyfrifoldeb am gynnwys ar wefan SWWHEP:
Mae Partneriaeth Addysg Uwch De Orllewin Cymru (SWWHEP) yn gwneud pob ymdrech posibl i sicrhau bod y wybodaeth a gyhoeddir ar ei gwefan yn gyfredol ac yn gywir, ond nid yw’n derbyn unrhyw atebolrwydd cyfreithiol am wallau neu hepgoriadau, a cheidw’r hawl i wneud newidiadau heb rybudd. Gyda’r adnoddau sydd ar gael, mae’n cymryd amser ac ymdrech sylweddol i fonitro’r holl dudalennau, fodd bynnag, bydd yr holl geisiadau rhesymol am newidiadau yn cael eu trin ar sail pob achos yn unigol. Nid yw SWWHEP yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw gyngor neu wybodaeth anghywir a roddir gan wefannau a gyrhaeddwyd drwy ddolenni o’i thudalennau gwe ei hun.
Hawlfraint
Mae’r holl destun a gyhoeddir ar wefan SWWHEP dan Hawlfraint SWWHEP 2008 ac eithrio testun y nodir yn glir ei fod yn perthyn i hawlfraint rhywun arall. Caniateir i unigolion lawrlwytho neu gopïo deunyddiau at ddefnydd personol yn unig. Dylid cyflwyno cynigion am unrhyw atgynhyrchiad arall i Wefeistr SWWHEP, Yr Adran Farchnata, Abaty Singleton, Prifysgol Abertawe SA2 8PP. Cedwir pob hawl.
Mae gan luniau a delweddau eraill sy’n ymddangos ar wefan SWWHEP hawlfreintiau amrywiol. Maent i’w defnyddio’n benodol ar dudalennau gwe a gyhoeddir ar wefan SWWHEP yn unig. I gael manylion am ddelweddau unigol, cysylltwch â’r Gwefeistr. Ni ddylid atgynhyrchu delweddau heb gael caniatâd o flaen llaw.