Croeso i wefan swyddogol SWWHEP
Mae Partneriaeth Addysg Uwch De Orllewin Cymru yn brosiect cydweithrediadol blaenllaw yn Addysg Uwch Cymru. Mae tri sefydliad addysg uwch (SAU) yn rhanbarth De Orllewin Cymru yn cydweithio’n agos ar hyn o bryd mewn partneriaeth arloesol i integreiddio a gwella ystod o wasanaethau i fyfyrwyr a staff.
Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) wedi dyfarnu £7.5 miliwn i Brifysgol Abertawe, Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Prifysgol Cymru Y Dryndod Dewi Sant i roi newid ar waith mewn gwasanaethau gweinyddol allweddol – dan Brosiect Ad-drefnu a Chydweithredu Partneriaeth Addysg Uwch De Orllewin Cymru (SWWHEP). Dyma’r prosiect cyntaf o’i fath yn y sector addysg uwch yng Nghymru.
Cymeradwywyd cyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru dan ei hagenda "Ymgeisio yn Uwch" er mwyn cefnogi SAUau yng Nghymru yn eu hymdrechion i wella perfformiad, hybu cystadleurwydd, a gwella gwerth am arian mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Mae’r wefan hon wedi’i chynllunio i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r cyhoedd a staff SWWHEP ynglyn â’r holl ddatblygiadau diweddaraf a’r cerrig milltir a gyflawnwyd. Archwiliwch y wefan i ddarganfod mwy am y prosiect cydweithrediadol cyffrous ac arloesol hwn.